25/05/2021
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202001682
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Ms A am y gofal a gafodd o 2016 ymlaen gan ddeintydd (“y Deintydd Cyntaf”) yn y Practis Deintyddol a holodd a oedd o safon ddigonol. Roedd hi hefyd yn dal yn anhapus gyda’r ffordd yr oedd y Deintydd Cyntaf wedi delio â’i chŵyn.
Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y gofal a ddarparwyd i Ms A gan y Deintydd Cyntaf yn rhesymol ac yn briodol ar y cyfan. Fodd bynnag, nododd fod y Deintydd Cyntaf wedi methu â chynnal pelydrau X i fonitro dannedd Ms A rhwng 2018 a 2020 yn unol â chanllawiau Cyfadran Ymarfer Deintyddol Cyffredinol (“y FGDP”). Er bod hyn yn fethiant, roedd yn fodlon bod y pelydrau X a gymerwyd ym mis Mawrth 2020 yn dangos, gydag ymyriad clinigol, y gallai datblygiad clefyd periodontol Ms A fod wedi cael ei atal. Yn anffodus, roedd yr oedi cyn cael triniaeth oherwydd pandemig COVID-19 wedi golygu bod clefyd Ms A wedi gwaethygu yn gyflym i’r pwynt nad oedd modd ei drin. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, er bod y methiannau’n cyfateb i fethiant y gwasanaeth, nad oeddent wedi achosi anghyfiawnder i Ms A ac na chafodd yr agwedd hon ar gŵyn Ms A ei chadarnhau. Fodd bynnag, atgoffwyd y Deintydd Cyntaf o bwysigrwydd glynu wrth ganllawiau’r FGDP mewn achosion o’r fath.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch y modd yr ymdriniwyd â chŵyn Ms A gan y Practis Deintyddol, gan nad oedd yn ymddangos ei fod yn unol â gweithdrefn gwyno’r GIG Gweithio i Wella neu ei bolisi cwynion ei hun. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y dylai’r mater fod wedi cael ei drin fel cwyn yn erbyn y Practis Deintyddol. Byddai hyn wedi golygu bod modd rheoli’r broses gwyno’n well ac roedd yn golygu nad oedd y Practis Deintyddol yn gweithredu fel “blwch post” drwy drosglwyddo cwyn Ms A i’r Deintydd Cyntaf. Roedd y dull difater a fabwysiadwyd gan y Practis Deintyddol a’r diffyg uwch oruchwyliaeth ac adolygiad o gŵyn Ms A gan uwch bartner yn golygu bod cyfle i ddysgu gwersi, elfen bwysig o’r broses Gweithio i Wella, yn cael ei golli. Canfu’r Ombwdsmon fod y diffygion yn y modd y deliodd y Practis Deintyddol â chŵyn Ms A nid yn unig yn gyfystyr â chamweinyddu ond hefyd yn achosi anghyfiawnder i Ms A gan fod yn rhaid iddi gwyno wrth swyddfa’r Ombwdsmon i gael atebion. I’r graddau hynny’n unig y cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agwedd hon ar gŵyn Ms A.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis Deintyddol adolygu’r modd y mae’n ymdrin â chwynion y GIG, trafod adroddiad yr Ombwdsmon yng nghyfarfod y Practis Deintyddol ac ystyried y dysgu sefydliadol ehangach sydd i’w gael o achos Ms A