13/07/2021
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty
Datrys yn gynnar
202100206
Datrys yn gynnar
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Miss A am y modd yr oedd y Practis wedi rheoli cyflwr ei choes, materion yn ymwneud â’i phresgripsiynau, a’r ffordd yr ymdriniodd â’i chŵyn am y materion hyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi cyfarfod â Miss A ynghylch ei chŵyn, ond nad oedd wedi rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol llawn a chynhwysfawr i’w chŵyn i Miss A yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Gwneud Iawn) (Cymru).
Ar ôl i’r Ombwdsmon gysylltu â’r Practis, cynhaliodd gyfarfod arall o’i wirfodd gyda Miss A i drafod ei chŵyn a rhoddodd ymateb ysgrifenedig iddi wedyn i’r materion a godwyd yn ei chŵyn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau a gymerwyd gan y Practis yn rhesymol ac wedi datrys y gŵyn.