24/08/2021
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty
Datrys yn gynnar
202102460
Datrys yn gynnar
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Cwynodd Mrs A nad oedd yr ymateb i’w chwyn gan y Feddygfa wedi mynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd ganddi, a’i bod yn amhriodol bod y meddyg a oedd yn destun ei chwyn wedi darparu’r ymateb.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Feddygfa wedi ymateb i’r holl faterion a godwyd gan Mrs A, ond hefyd nad oedd rhai o’r materion a godwyd gyda’i swyddfa wedi bod yn rhan o’i chwyn i’r Feddygfa. Roedd hefyd o’r farn nad oedd aelod priodol o staff wedi darparu’r ymateb.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i gyfarfod â Mrs A i gytuno ar gwmpas ei chwyn o fewn 10 diwrnod gwaith, ac yna darparu ymateb cynhwysfawr gan aelod staff priodol.