21/03/2022
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202100210
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Miss X am ymchwiliadau a thriniaeth a gynhaliwyd gan ei Meddyg Teulu a’r Bwrdd Iechyd i fás serfigol. Cwynodd hefyd am y modd yr ymdriniodd y ddau sefydliad â’i chwynion.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr ymchwiliadau a’r driniaeth i fas ceg y groth Miss X yn weddol resymol ar y cyfan, er bod oedi wedi bod cyn i’r Practis wneud atgyfeiriad ar un achlysur. Yn ogystal, ni wnaeth y Bwrdd Iechyd gopïo Miss X i mewn i lythyr yn nodi canlyniadau biopsi a thynnodd hi oddi ar y rhestr ar gyfer apwyntiad ar ôl i’r llythyr yn ei gwahodd i’r clinig gael ei anfon ati. Er nad oedd yr un o’r methiannau hyn wedi effeithio ar driniaeth Miss X yn y pen draw, roeddent wedi achosi pryder a gwastraff amser a thrafferth diangen iddi wrth geisio datrys materion. I’r graddau hynny, dyfarnwyd bod y cwynion wedi eu cyfiawnhau.
O ran delio â chwynion Miss X, canfu’r Ombwdsmon pan wnaeth Miss X gŵyn am y ddau sefydliad drwy ganolfan gyswllt y Bwrdd Iechyd, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi trosglwyddo’r gŵyn am y Practis. Gan nad oedd y Practis yn ymwybodol ohono, nid oedd yn gallu ymateb i gŵyn Miss X. Am y rheswm hwnnw, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn am y Practis. Dyfarnodd fod y gŵyn yn erbyn y Bwrdd Iechyd wedi ei chyfiawnhau. Yn ogystal â’r methiant i drosglwyddo rhannau perthnasol y gŵyn i’r Practis, roedd y Bwrdd Iechyd hefyd wedi trin y gŵyn am ei weithredoedd ei hun yn anghywir, fel cwyn a ddatryswyd yn anffurfiol, pan ddylai fod wedi anfon ymateb ffurfiol.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Miss X a thalu £250 iddi i gydnabod yr amser a’r drafferth a achoswyd oherwydd y diffygion yn y modd yr ymdriniodd â’i chwyn.
Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd gyhoeddi canllawiau i’w Gyfarwyddiaeth Gynaecoleg ynghylch pryd gellir delio â chwynion yn anffurfiol a phryd mae angen ymateb ffurfiol.