06/06/2022
COD - Uniondeb
COD
202100665
COD - Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau
Cyngor Bwrdeistref Siriol Pen-y-bont ar Ogwr
Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod wedi defnyddio ei sefyllfa yn amhriodol mewn perthynas ag ymdrechion codi arian i wrthwynebu cynlluniau gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder i ystyried defnyddio gwesty ym Mhorthcawl i gartrefu Canolfan Breswyl i Fenywod Cymru.
Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn y Cod Ymddygiad:
Yn ystod yr ymchwiliad, cafwyd copïau o ddogfennau perthnasol gan y Cyngor, cafwyd cyfrifon tystion, a darparwyd adroddiad gan yr Aelod.
Canfu’r ymchwiliad na chafodd yr Aelod fudd ariannol o’i weithredoedd; nid oedd tystiolaeth i ategu’r honiad bod amodau paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad wedi eu torri. Fodd bynnag, er bod bwriadau’r Aelod yn ddidwyll, canfu ei fod wedi darparu gwybodaeth gamarweiniol i breswylwyr pan ofynnwyd iddynt roi arian i gronfa nad oedd yn angenrheidiol, ac nad oedd modd iddynt adennill eu harian ohoni pe na bai’r camau cyfreithiol disgwyliedig yn cael eu cymryd. Nid oedd unrhyw gais cynllunio wedi ei gyflwyno mewn gwirionedd felly nid oedd cais cynllunio i’w herio bryd hynny. Dylai’r Aelod fod wedi gwybod nad oedd yr wybodaeth yn gywir. Gan hynny, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod ymddygiad yr Aelod yn golygu y gallai fod yn groes i baragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.
Cyfeiriodd adroddiad yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.
Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad bod yr Aelod wedi torri amodau paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad drwy ddarparu gwybodaeth gamarweiniol ac anghywir i breswylwyr am gynlluniau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y gwesty. Yn unol â hynny, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylid atal yr Aelod am 3 mis.