30/03/2022
COD - Uniondeb
COD
2022101091
COD - Dim tystiolaeth o dorri’r Cod
Cyngor Sir Penfro
Honnwyd bod Cynghorydd (“yr Aelod”) wedi postio fideos ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol, TikTok, a ddaeth ag anfri ar eu swydd fel cynghorydd a Chyngor Sir Penfro (“y Cyngor”).
Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i weld a yw’n bosibl bod yr Aelod wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad, na chaiff aelodau ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.
Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi postio cyfres o fideos, rhai ohonynt yn cynnwys synau TikTok a oedd yn cynnwys helaethion. Cafodd yr Aelod, a oedd wedi’i benodi i gorff llywodraethu ysgol, ei wahardd o’r corff llywodraethu tra bod y Cyngor yn ymchwilio i’r mater. Cyfwelwyd nifer o dystion. Roedd rhai o’r farn bod y fideos yn ddi-chwaeth. Canfu ymchwiliad y Cyngor nad oedd y fideos yn effeithio ar rôl yr Aelod fel llywodraethwr.
Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod yn gweithredu’n breifat pan bostiodd y fideos. Mae cyfraith achosion perthnasol wedi sefydlu, er mwyn canfod achos o dorri’r ddarpariaeth “anfri”, bod yn rhaid i ymddygiad aelod effeithio ar enw da eu Cyngor a/neu rôl aelod etholedig a mynd y tu hwnt i effeithio ar eu henw da personol. Er y gall rhai ystyried natur y fideos yn syfrdanol, mae synau TikTok ar gael yn eang ac yn hawdd ar TikTok ac yn aml yn cael eu hatgynhyrchu’n eang gan ddefnyddwyr TikTok mewn symiau mawr. Mae TikTok yn blatfform cyfryngau cymdeithasol lle mae’n ofynnol i ddefnyddwyr fod yn 13 oed ac mae cynnwys o’r math a bostiwyd gan yr Aelod ar gael yn eang ac am ddim heb sensoriaeth. Roedd y fideos yn amlwg wedi’u bwriadu i fod yn ddigrif ac i wneud i bobl chwerthin. Nid oedd y fideos wedi’u cyfeirio at unrhyw un ac nid ydynt yn dangos unrhyw fwriad i achosi niwed neu ofid.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr awdurdod perthnasol dan sylw.