Dewis eich iaith
Cau

Ymdriniaeth â chais cynllunio (arall) : Cyngor Sir Caerfyrddin

Dyddiad yr Adroddiad

26/08/2021

Pwnc

Ymdriniaeth â chais cynllunio (arall)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202102058

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cwynodd Mr X am anawsterau draenio a llifogydd yn ei gartref, a oedd i bob golwg yn deillio o waith adeiladu a wnaed ar safle datblygu cyfagos ar ôl i’r Cyngor roi caniatâd cynllunio.

Canfu’r Ombwdsmon y bu peth oedi gan y cyngor wrth benderfynu pa adran oedd yn gyfrifol am ddelio â’i gŵyn ac nad oedd ymateb wedi’i ddarparu yn unol â’i bolisi cwynion. Roedd y Cyngor yn ystyried camau gorfodi i fynd i’r afael â’r materion.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i, o fewn 20 diwrnod gwaith, roi ymateb i gŵyn Cam 1 i Mr X gan roi sylw i’r pryderon a godwyd, gan gynnwys manylion trefn gwyno’r Cyngor ac amlinellu’r hawl i gyfeirio at gam 2 y weithdrefn, ynghyd ag ymddiheuriad am y methiant i ystyried y gŵyn yn unol â Pholisi Cwynion y Cyngor. Cytunodd y Cyngor hefyd i roi manylion i Mr X am y camau gorfodi sydd wedi’u cymryd neu sy’n cael eu hystyried gan y Cyngor.

Yn ôl