Dewis eich iaith
Cau

Ymdriniaeth â chais cynllunio (methiant i hysbysu'r rhai a effeithir): Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dyddiad yr Adroddiad

27/11/2023

Pwnc

Ymdriniaeth â chais cynllunio (methiant i hysbysu'r rhai a effeithir)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304519

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cwynodd Mr B am weithredoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch cais cynllunio ar gyfer depo bysiau lleol ar dir preswyl. Dywedodd nad oedd wedi ymgynghori â phreswylwyr.

Canfu’r Ombwdsmon na allai ymchwilio i bryderon Mr B gan nad oedd penderfyniad wedi’i wneud ar y cais cynllunio hyd yma. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu ynghylch digonolrwydd ymateb Cam 2 y Cyngor i gŵyn gychwynnol Mr B.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr B ac i ymateb yn llawn i’w gŵyn gan gynnwys mynd i’r afael â phryderon am ymgynghori â phreswylwyr yn ystod proses y cais cynllunio, o fewn 20 diwrnod gwaith.

Yn ôl