04/08/2021
Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd
Datrys yn gynnar
202100797
Datrys yn gynnar
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cwynodd Mr X nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (“y Cyngor”) wedi ymateb yn ddigonol i’w gŵyn ynghylch tipio anghyfreithlon yn yr ardal leol.
Wrth ystyried cwyn Mr X, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb i’w gŵyn a bod ei weithredoedd wedi peri anhwylustod iddo. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i:
Ymddiheuro i Mr X am yr oedi cyn ymateb i’w gŵyn.
Rhoi ymateb i gŵyn i Mr X.
Roedd yr argymhellion eisoes wedi cael eu gweithredu erbyn i ymholiadau’r Ombwdsmon ddod i ben.