25/10/2021
Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd
Datrys yn gynnar
202104399
Datrys yn gynnar
Cyngor Caerdydd
Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w gŵyn am yr amser a gymrodd i ateb ei e-byst ynghylch mater yn ymwneud â chais am groesfan pafin.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb ysgrifenedig i Mr X (o fewn tair wythnos) yn cynnwys ymddiheuriad am yr oedi cyn ymateb.
Roedd yr Ombwdsmon yn ystyried bod hyn yn datrys y gŵyn yn briodol yn lle cynnal ymchwiliad.