Rydym yn mynd ati’n rheolaidd i gyhoeddi gwybodaeth am y sefydliad, ein gwariant, ein blaenoriaethau, ein penderfyniadau, ein polisïau a’n gweithdrefnau, rhestri a chofrestri, a gwybodaeth am ein gwasanaethau. Cynlluniwyd y canllaw hwn i wybodaeth i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth heb orfod cyflwyno cais am wybodaeth dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae’r canllaw hwn i wybodaeth yn seiliedig ar gyfarwyddyd cynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer Cyrff Cyhoeddus Anadrannol ac awdurdodau cyhoeddus eraill.
Rhestrir gwybodaeth yn ôl y dosbarthiadau canlynol:
(Gwybodaeth am y sefydliad, strwythurau, lleoliadau, llywodraethu cyfreithiol)
(Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant sy’n cael ei ragamcanu ac incwm a gwariant gwirioneddol, tendro, caffael, contractau ac archwiliadau ariannol)
(Strategaethau a chynlluniau, gwybodaeth perfformiad, arolygon ac adolygiadau)
(Prosesau penderfynu a chofnodion o benderfyniadau)
(Gwybodaeth a gedwir mewn cofrestri, sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, a rhestri a chofrestri eraill)
(Cyngor ac arweiniad, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i’r wasg)
Os nad yw’r wybodaeth rydych am ei chael wedi’i rhestru uchod, gallwch gyflwyno cais am wybodaeth dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Darllenwch am sut y gallwch ofyn am wybodaeth am ein gwaith.