Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein gwasanaeth yn hygyrch i bawb ac nid ydym yn gwahaniaethu’n anfwriadol yn erbyn aelodau o unrhyw grŵp cymdeithasol penodol. Rydym hefyd yn anrhydeddu ein dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Monitro cydraddoldeb yw un o’r dulliau i ni fesur sut ydym yn cyflawni’r ymrwymiadau hyn. Mae monitro cydraddoldeb yn golygu casglu gwybodaeth am gydraddoldeb a’i dadansoddi er mwyn adnabod meysydd i’w gwella.
Mae eich cyfraniad yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, bydd eich ymateb yn ein galluogi i ddeall yn well pwy sy’n cwyno i ni, beth yw eu hanghenion amrywiol a sut y gallem wella ein gwasanaeth wrth symud ymlaen.
Bydd eich ymateb yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol. Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a bydd yn cael ei phrosesu at ddibenion casglu a dadansoddi ystadegau cydraddoldeb yn unig.
Wrth i chi gychwyn cwblhau’r holiadur hwn, gofynnwn am gyfeirnod eich achos. Gwnawn hyn er mwyn dadansoddi’n well hygyrchedd ein gwasanaeth – er enghraifft, ar sail pwnc neu fath o gŵyn.
Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd eich ymateb yn cael eu gweld gan unrhyw aelod o staff sy’n gyfrifol am asesu neu ymchwilio i’ch cwyn. Dim ond y staff sy’n dadansoddi’r data bydd yn cael ei weld.
Efallai y bydd rhai cwestiynau yn teimlo’n sensitif neu bersonol. Fodd bynnag, rydym yn gorfod eu gofyn o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Os nad ydych yn fodlon ymateb unrhyw gwestiwn penodol, dewiswch opsiwn ‘mae’n well gen i beidio ymateb’.
Bydd yr holiadur hwn yn cymryd tua 3 munud i’w gwblhau. Rydym yn ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi eich ymatebion.
Rydym yn defnyddio SurveyMonkey ar gyfer yr holiadur hwn. Fel rhan o’r gwasanaeth, bydd eich ymatebion yn cael eu trosglwyddo’n ddiogel i’r Unol Daleithiau o dan Fframwaith Tarian Diogelwch yr UE-UDA ac yn cael eu cadw gan SurveyMonkey. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau Preifatrwydd a Chyfreithiol SurveyMonkey yma.
Ar ôl ei gael gan SurveyMonkey, byddwn yn cadw’r data am ddeng mlynedd o’r mis pan gafodd eich ymholiad neu’ch cwyn eu cau. Byddwn hefyd yn gofyn bod y data yn cael ei ddileu gan SurveyMonkey yn ystod y cyfnod cadw hwn. Ar ôl deng mlynedd, byddwn yn dileu unrhyw ddolenni at wybodaeth sy’n eich adnabod oddi ar ein systemau. Yn ystod y cyfnod hwn bydd gennych hawl i ofyn am gael gweld eich data personol o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data. Mae gennych hawl hefyd i ofyn am gael cywiro data anghywir. Dylid anfon unrhyw geisiadau neu bryderon o’r fath at y Swyddog Diogelu Data yn y cyfeiriad isod. Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yw’r rheolydd data i ddibenion deddfwriaeth Diogelu Data. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data, a sut i gwyno, ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn www.ico.org.uk.