Mae ein hysbysiad preifatrwydd wedi’i drefnu ar ffurf haenau, mae’r adran Gwybodaeth Gyffredinol yn esbonio pwy ydym ni a sut gallwch chi gysylltu â ni. Mae’r adran hon yn esbonio’r ffordd yr ydym (Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cwyno wrthym am gorff cyhoeddus.
Mae angen i ni gydymffurfio â’n dyletswyddau statudol fel yr amlinellir yn y ddeddfwriaeth. Mae’n rhaid i ni gydymffurfio â’r deddfwriaethau canlynol:
Rydym yn recordio ein galwadau (ffôn a galwadau sain/fideo eraill), oherwydd gall ail-wrando ar sgyrsiau fod yn ddefnyddiol i ni i’n helpu i ddeall yr hyn a ddywedwyd wrthym. Caiff galwadau eu recordio a’u storio ar ein systemau.
Nid oes rhaid i chi rannu’r wybodaeth hon â ni. Ni fydd eich penderfyniad i beidio â rhannu’r wybodaeth hon â ni yn dylanwadu mewn unrhyw ffordd ar ein hystyriaeth o’ch cwyn.
Os ydych yn gwneud y gŵyn dros rywun arall, bydd angen eu henw a’u manylion cyswllt arnom. Mae’n rhaid i ni fod yn fodlon y gallwch wneud y gŵyn ar eu rhan. Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth yn dangos y gallwch gwyno drostynt. Gall hyn fod yn ddogfen gyfreithiol yn dangos y gallwch weithredu drostynt neu efallai y byddwn yn gofyn iddynt lofnodi ffurflen awdurdodi.
Os yw eiriolwr o Gyngor Iechyd Cymuned yn eich helpu i wneud eich cwyn, bydd angen iddynt anfon copi i ni o’r ffurflen awdurdodi y gwnaethant ofyn i chi ei llofnodi.
Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni ofyn i unrhyw un y credwn a all fod â gwybodaeth a fydd yn ein helpu i wneud penderfyniad ynghylch eich cwyn i ddarparu’r wybodaeth honno i ni.
Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth gan:
Byddwn yn ysgrifennu atoch gyda’n penderfyniad. Gallwn benderfynu bod eich cwyn yn un o’r canlynol:
– Gydag adroddiadau cyhoeddus nad ydynt er lles y cyhoedd byddwn hefyd yn cyhoeddi crynodeb o’n penderfyniad ar ein gwefan.
– Gydag adroddiadau lles y cyhoedd rydym yn cyhoeddi copi o’r adroddiad ymchwilio llawn ar ein gwefan. Gallwch ddysgu am ein cyhoeddiadau ar ein gwefan.
Pan fyddwn yn rhannu copïau o’n penderfyniadau ag eraill rydym yn cymryd camau i ddiogelu eich hunaniaeth lle bynnag y bo modd
Os ydych wedi cael cymorth gan eiriolwr i wneud eich cwyn, byddwn yn anfon copi atynt o’r llythyr penderfyniad a anfonwn atoch.
Gallwn benderfynu y daw budd o rannu copi o’n hadroddiad nad yw er lles y cyhoedd neu adroddiad er lles y cyhoedd â sefydliadau eraill. Er enghraifft, gyda sefydliadau sy’n gyfrifol am osod a monitro safonau penodol.
Byddwn yn dweud wrthych pan fyddwn yn gwneud hyn a pham. Dyma rai o’r sefydliadau rydym yn rhannu ein penderfyniadau â nhw:
Fel rhan o’n hymrwymiad i “Ddata Agored” a thryloywder, rydym hefyd yn cyhoeddi rhestr o gwynion a gaeir bob chwarter, ynghyd â chyfeirnodau, cyrff y cwynir amdanynt, categorïau pwnc a chanlyniadau. Yn yr un modd â chrynodebau, byddwn yn dileu unrhyw wybodaeth sy’n eich adnabod.
Fel corff cyhoeddus mae’n ofynnol i ni ystyried ceisiadau am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Rydym yn cymryd camau i ddiogelu eich hunaniaeth pan fyddwn yn ymateb i geisiadau o’r fath.
Pan fyddwn yn ystyried eich cwyn, efallai y bydd angen i ni gysylltu â thrydydd parti fel yr Heddlu neu wasanaethau cymdeithasol, os ydym o’r farn y gallai rhywun fod mewn perygl.
Pan fyddwch yn gwneud eich cwyn, byddwn yn eich gwahodd i rannu gwybodaeth â ni am eich:
Nid oes rhaid i chi roi’r wybodaeth hon i ni, ond bydd yn ein helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a gwella hygyrchedd ein gwasanaeth. Ni fydd y ffordd y byddwn yn ymdrin â’ch cwyn yn cael ei heffeithio os penderfynwch nad ydych am rannu’r wybodaeth hon â ni. Gallwch hefyd ddewis ‘mae’n well gen i beidio â dweud’ i bob cwestiwn.
Os ydych yn cwyno wrthym ni
Os ydych yn rhannu eich gwybodaeth gydraddoldeb â ni trwy ein gwefan, bydd eich ymatebion yn cael eu hychwanegu’n awtomatig at eich cofnod achos. Os ydych yn cwblhau ein harolwg cydraddoldeb ar-lein neu’r ffurflen gydraddoldeb ar ffurf papur, byddwn yn gofyn i chi am gyfeirnod eich cwyn ac yn cofnodi eich ymatebion yn erbyn eich achos. Gwnawn hyn oherwydd mae’n caniatáu i ni ddadansoddi hygyrchedd ein gwasanaeth yn well, er enghraifft ar gyfer achosion a gaewyd o fewn gyfnod penodedig o amser neu achosion sy’n ymwneud â phwnc penodedig.
Ni fydd aelod o staff sy’n gyfrifol am asesu neu ymchwilio i’ch cwyn yn gweld eich ymateb ar unrhyw adeg. Dim ond y staff sy’n ymgymryd â’r dadansoddiad a fydd yn ei weld.
Rydym yn dadansoddi data cydraddoldeb ac yn cyhoeddi ein dadansoddiad, gan gynnwys yn ein hadroddiad blynyddol. Rydym yn ofalus iawn wrth sicrhau nad yw pobl yn cael eu hadnabod yn y data a gyhoeddir gennym.
Ar ôl i chi gwyno wrthym, efallai y byddwn yn gofyn i chi gymryd rhan mewn ymchwiliad boddhad cwsmeriaid. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, gwahoddiad i gwblhau arolwg ar-lein neu ymateb i rai cwestiynau dros y ffôn. Weithiau gallwn hefyd drefnu grwpiau ffocws i ganfod barn pobl. Nid oes rhaid i chi gymryd rhan, ond mae eich adborth yn ein helpu i wella ein gwasanaeth a chyflawni ein dyletswyddau statudol o dan ein deddfwriaeth.
Ni fydd y staff sy’n ymdrin â’ch cwyn yn gweld eich adborth – dim ond y staff sy’n ymgymryd â’r ymchwil boddhad cwsmeriaid a’i ddadansoddiad a fydd yn ei weld. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn gofyn a ydych yn hapus i ni gyhoeddi eich adborth. Dim ond os ydych wedi rhoi caniatâd i ni y byddwn yn cyhoeddi adborth.
Efallai y byddwn yn gofyn i drydydd parti wneud yr ymchwil boddhad cwsmeriaid hwn i ni. Pan fyddwn yn gwneud hynny, bydd angen i ni rannu rhywfaint o wybodaeth amdanoch gyda nhw. Rydym yn cyfyngu hyn i:
Unwaith y bydd y trydydd parti yn cwblhau ein hymchwil, byddant yn rhannu canfyddiadau’r ymchwil â ni. Ni fydd yn bosibl eich adnabod o hyn oni bai eich bod yn rhoi caniatâd penodol.
Nid yw’r trydydd parti ond yn cael defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gynnal yr ymchwil hon i ni. Maent yn cadw’r wybodaeth am 3 mis.
Rydym yn cymryd camau i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Gallwch ddarllen am y camau a gymerwn yn adran Gwybodaeth Gyffredinol ein hysbysiad preifatrwydd.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen arnom a bydd hynny’n dibynnu ar ba ddefnydd a wneir ohoni. Rydym wedi cyhoeddi ein hamserlen cadw cofnodion ar ein gwefan. Os hoffech i ni anfon copi atoch, rhowch wybod i ni.
Mae’r adran Gwybodaeth Gyffredinol ein hysbysiad preifatrwydd yn dweud wrthych am eich hawliau diogelu data.
Mawrth 2023