Cwynodd yr achwynwyr, Mr P, Mr H a Mr S am oedi wrth benderfynu ar ôl‑hawliadau am ofal iechyd parhaus a ariennir gan y GIG.[1] Ar yr adeg y gwnaed y cwynion i’r Ombwdsmon, nid oedd yr un o’r achwynwyr wedi derbyn penderfyniad o’u hawliadau.
Gosododd y Llywodraeth Cynulliad Cymru (fel yr oedd bryd hynny) system lle’r oedd ôl- hawliadau a gyflwynwyd i fyrddau iechyd unigol rhwng Awst 2010 ac Ebrill 2014 (a elwir yn “achosion Cam 2”) yn cael eu trosglwyddo yn bennaf i Fwrdd Iechyd Addysg Powys (“y Bwrdd Iechyd”) i’w penderfynu. Ym Mehefin 2014, penododd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllawiau yn dynodi na ddylid hawliadau o’r fath gymryd mwy na dwy flynedd i’w prosesu. Yn 2016, cyflwynodd y Bwrdd Iechyd broses newydd, dau gam, ar gyfer y rheolaeth o’r nifer mawr o achosion neilltuol Cam 2. Mae hyn yn cynnwys adolygiad rhagarweiniol o’r hawliad, a all arwain at gynnal adolygiad llawn o gyfnod byrrach na’r hyn y gofynnwyd amdano.
Cafodd hawliad Mr P ei wneud i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar 17 Mai 2013, a’i drosglwyddo i’r Bwrdd Iechyd yng Ngorffennaf 2014. Ar 17 Awst 2017, cafodd Mr P ei hysbysu o ganlyniad yr adolygiad Cam 1 ei hawliad, ac y byddai’r adolygiad Cam 2 yn rhan o’r cyfnod a honnir.
Cafodd hawliad Mr H ei wneud i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar y 13 Mawrth 2013, a’i drosglwyddo i’r Bwrdd Iechyd yng Ngorffennaf 2014. Ar 18 Awst 2017, cafodd Mr P ei hysbysu o ganlyniad yr adolygiad Cam 1, ac y byddai’r adolygiad Cam 2 yn ystyried yr holl gyfnod a honnir.
Cafodd hawliad Mr S ei wneud i awdurdod lleol ar 13 Medi 2013, a’i drosglwyddo i’r Bwrdd Iechyd yng Ngorffennaf 2014. Ar 16 Awst 2017, cafodd Mr S ei hysbysu o ganlyniad yr adolygiad Cam 1, ac y byddai’r adolygiad Cam 2 yn ystyried rhan o’r cyfnod a honnir. Mae hawliad Mr S bellach wedi’i wrthod.
Canfu’r Ombwdsmon fod y methiant i benderfynu ar yr hawliadau o fewn yr amserlen argymelledig, neu hyd yn oed o fewn amser rhesymol, yn gamweinyddu. Dioddefodd yr achwynwyr yr anghyfiawnder o beidio â gwybod a fyddai eu hawliadau’n llwyddo a, pe baent yn llwyddiannus, yr oedi wrth dderbyn ad-daliadau am y costau a achoswyd. Argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i’r achwynwyr, a gwneud taliad o £125 i bob un er mwyn cydnabod yr oedi sylweddol a brofant hwy.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd hefyd yn gwneud taliad tebyg i bob hawliwr nad oedd eu hawliad wedi’i hadolygu fel ar 7 Medi 2017 ac a oedd wedi aros dros ddwy flynedd o ddyddiad derbyn yr hawliad gan y Bwrdd Iechyd perthnasol.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflawni’r argymhellion.
[1] Pecyn o ofal a drefnir ac a ariennir yn gyfan gwbl gan y GIG ar gyfer unigolion y tu allan i’r ysbyty sydd ag anghenion gofal iechyd parhaus