Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd hi a’i diweddar fab, Babi C, gan y Bwrdd Iechyd. Yn benodol, cwynodd Mrs A nad oedd datblygiad Babi C wedi cael ei fonitro pan oedd yn feichiog ac wrth esgor, nad oedd wedi derbyn cynllun geni ac nad oedd y Bwrdd wedi ymateb i’w phryderon am boenau anghyffredin wrth esgor. Cwynodd Mrs A hefyd fod oedi wedi bod cyn i Babi C gael ei weld gan bediatrydd, gyda derbyn triniaeth a hefyd na chafodd y profion angenrheidiol eu gwneud ar ôl yr enedigaeth. Cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd nid yn unig wedi methu ag ymateb yn foddhaol i’w chŵyn ond hefyd nad oedd wedi cynnal ymchwiliad llawn i’r hyn achosodd farwolaeth Babi C a’i bod felly wedi derbyn rhesymau gwahanol am farwolaeth Babi C. Yn olaf, cwynodd Mrs A fod marwolaeth Babi C wedi cael ei chofrestru’n anghywir fel “marw-anedig”.
Derbyniwyd y gŵyn gan argymell bod y Bwrdd Iechyd:
(a) Yn rhoi ymddiheuriad ystyrlon i Mr a Mrs A am y methiannau a
ddisgrifir yn yr adroddiad hwn.
(b) Yn talu swm o £4500 i Mrs A i gydnabod y trallod, yr oedi a’r
ansicrwydd a brofodd yn y mater hwn, y gost a achoswyd o gael
sgan preifat a’r amser a’r drafferth yn dod â’i chŵyn i’r swyddfa
hon.
(c) Yn adnabod y clinigwyr a’r bydwreigiau oedd yn gyfrifol am ofal
Mrs A a Babi C ac yn trafod cynnwys yr adroddiad hwn yn eu
sesiynau goruchwylio, gan rannu unrhyw wersi i’w dysgu gyda
chyd-weithwyr yn yr adran.
(ch) Yn sicrhau y cydymffurfir â’r broses o roi gwybodaeth i rieni
babanod marw-anedig neu newydd-anedig.
(d) Yn newid statws marwolaeth Babi C o un ‘farw-anedig’ i
‘newydd-anedig’.