Cwynodd Mr A i’r Ombwdsmon ym mis Mawrth 2020, trwy ei AS, fod Cyngor Caerdydd wedi methu â chwblhau asesiad annibynnol o’i anghenion yn gynnar yn 2019, ar ôl iddynt gytuno i wneud hynny. Yn unol â’i bwerau, datrysodd yr Ombwdsmon y gŵyn (fel dewis arall yn lle ymchwilio) ar sail cytundeb y Cyngor i gynnal asesiad annibynnol o anghenion Mr A. Roedd y camau hyn i’w cwblhau erbyn 27 Medi 2020.
Roedd yr Ombwdsmon yn anfodlon bod y Cyngor (heb esgus rhesymol)
wedi methu â chydymffurfio â’r argymhelliad cynharach. Felly, defnyddiodd ei bwerau i gyhoeddi adroddiad arbennig. Roedd hyn yn feirniadol o fethiant y Cyngor i weithredu’r argymhelliad yr oedd wedi cytuno iddo’n flaenorol. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o ymdrechion rhagweithiol ganddo nes iddo gael fersiwn drafft o’r adroddiad arbennig yn gofyn am ei sylwadau. Felly, gwnaeth yr Ombwdsmon argymhellion pellach a chytunodd y Cyngor i:
a) Cwblhau asesiad annibynnol (i’w gynnal gan rywun nad ydynt yn gweithio i’r Cyngor) o anghenion Mr A erbyn 31 Ionawr 2021.
b) Darparu diweddariad wythnosol i’w swyddfa am ddatblygiad yr asesiad annibynnol.
c) Rhoi copi o’r asesiad annibynnol i’w swyddfa ar ôl cwblhau.
d) Rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr A (o fewn 1 mis), gyda chopi i’r AS, am yr oedi wrth gwblhau’r asesiad annibynnol. Cytunodd hefyd i roi copi o’r llythyr i swyddfa’r Ombwdsmon.