Mae’r dudalen hon yn esbonio sut y gallwch ofyn am wybodaeth am ein gwaith. Mae ffordd wahanol o wneud cais os ydych chi eisiau gwybodaeth y gallwn ei chadw amdanoch.
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOI) a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR) yn rhoi’r hawl i chi wneud cais am unrhyw wybodaeth ysgrifenedig neu gofnodedig sydd gennym.
Cyn i chi wneud cais FOI neu EIR dylech wirio pa wybodaeth rydym wedi’i chyhoeddi ar ein gwefan. Gweler ein Canllaw i Wybodaeth i gael gwybod am wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi fel mater o drefn. Lawrlwythwch ein hadroddiadau Data Agored i gael gwybodaeth ystadegol am y cwynion a gawn.
Gallwch lawrlwytho gwybodaeth o’n gwefan yn rhad ac am ddim. Bydd angen i chi osod Adobe Acrobat Reader i agor dogfennau PDF.
Os ydych am i ni argraffu’r wybodaeth ar eich rhan yn hytrach na’u lawrlwytho eich hun o’n gwefan, efallai y byddwn yn codi tâl am hyn. Bydd y tâl yn dibynnu ar faint y byddwch yn gofyn i ni ei argraffu. Byddwn yn codi £2.50 y ddogfen am 5 dogfen neu fwy. Bydd angen i chi dalu’r tâl llawn cyn i ni anfon y wybodaeth atoch.
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano ar ein gwefan, gallwch ysgrifennu atom a gofyn am y wybodaeth sydd gennym. Gallwch e-bostio eich cais at cais.gwybodaeth@ombwdsmon.cymru
Gallwch hefyd ysgrifennu atom:
Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ
Sicrhewch eich bod yn cynnwys cyfeiriad e-bost neu bost fel y gallwn ymateb i’ch cais.
Cyn i chi anfon eich cais, efallai y byddwch am ddarllen cyngor Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ynghylch sut i ofyn am wybodaeth gan awdurdod cyhoeddus. Ewch i wefan yr ICO.
Byddwn yn anfon cadarnhad i chi ein bod wedi derbyn eich cais. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom o ran eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi o fewn 20 diwrnod gwaith os oes gennym y wybodaeth a byddwn yn:
Os byddwn yn rhoi’r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani i chi, mae’n golygu ein bod yn hapus i rannu’r wybodaeth hon ag unrhyw un a allai ofyn am ei gweld.
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd sy’n agored a thryloyw, a hoffwn rannu gwybodaeth lle gallwn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni gydbwyso hyn â’n dyletswydd i ddiogelu’r wybodaeth bersonol a chyfrinachol sydd gennym. Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth os ydym yn meddwl y byddai’n achosi niwed i rywun neu’n rhwystro ein gallu i gyflawni ein swyddogaethau.
Ni allwn ychwaith roi gwybodaeth o gofnodion cwynion unigol i’r cyhoedd oni bai bod y cyfreithiau yr ydym yn gweithio iddynt yn caniatáu i ni wneud hynny. Rydym yn ystyried cwynion o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 a Deddf Llywodraeth Leol 2000. Cawn ein hatal rhag rhannu gwybodaeth o gwynion oni bai am reswm sydd wedi’i nodi yn un o’r Deddfau.
Gallwn hefyd wrthod cais pe byddai’n costio gormod o amser i ni gasglu’r wybodaeth. Mae’r gyfraith yn gosod terfyn cost o £450 ar gyfer ystyried ceisiadau am wybodaeth, sy’n seiliedig ar gyfradd safonol o £25 yr awr. Os ydym yn amcangyfrif y bydd yn cymryd mwy na 18 awr i gasglu’r wybodaeth, efallai y byddwn yn dewis gwrthod y cais.
Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym wedi delio â’ch cais gallwch ofyn am adolygiad. Ein Prif Gynghorwr Cyfreithiol sydd fel arfer yn cynnal adolygiadau o geisiadau am wybodaeth. Byddant yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad y byddwch yn gofyn am adolygiad mewnol. Efallai y bydd angen i ni ymestyn hyn i 40 diwrnod gwaith weithiau.
Gallwch e-bostio eich cais am adolygiad mewnol i cais.gwybodaeth@ombwdsmon.cymru.
Gallwch hefyd ysgrifennu at:
Prif Gynghorwr Cyfreithiol
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ
Os ydych chi’n parhau i fod yn anhapus a’n hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Dim ond i brosesu’ch cais am wybodaeth y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd i ddarganfod pam a sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.