Dewis eich iaith
Cau

Y dreth cyngor: Cyngor Sir Ynys Môn

Dyddiad yr Adroddiad

29/11/2023

Pwnc

Y dreth cyngor

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306198

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Sir Ynys Môn

Cwynodd Mr L nad oedd wedi cael ymateb er gwaethaf uwchgyfeirio ei bryderon i gam 2 gweithdrefn gwyno’r Cyngor.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ysgrifennu at Mr L ac ymdrin â rhywfaint o’i bryderon, roedd wedi methu gweithredu yn unol â’i drefn gwyno statudol a chyhoeddi ymateb ysgrifenedig ffurfiol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr L. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro ac i roi esboniad am yr oedi ac i gyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.

Yn ôl